Her wedi'i harchifo - 2019
Yn ôl i'r archifPeiriant fferm: 2040
Mae ffermwyr yn gweithio'n galed i amddiffyn yr amgylchedd ac mae NFU Cymru wedi ymrwymo i wneud ffermio yn garbon niwtral erbyn 2040.
Yr Her:
Dyluniwch beiriant fferm ar gyfer 2040 ac esboniwch ei fuddion i'r amgylchedd.
Ynghyd â'ch dyluniad, anfonwch hysbyseb ar gyfer eich cynnyrch sydd yn esbonio'i fanteision. Gallai hyn fod yn boster, yn fideo, yn lythyr o berswâd, yn gyflwyniad, yn araith – beth bynnag y dymunwch!
Byddwn yn ystyried pedwar maen prawf wrth farnu: pa mor dda yw eich datrysiad o'r broblem, creadigrwydd & arloesedd, effaith amgylcheddol eich dyluniad a manteision y dyluniad ar gyfer ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd.


Y Wobr
- Ymweliad â fferm ar gyfer hyd at 35 plentyn o'ch ysgol, wedi ei noddi yn llawn.
- Teithio a threuliau ar gyfer hyd at pum plentyn a dau oedolyn i fynychu'r dathliad mawreddog yn Nhŷ'r Cyffredin er mwyn i chi arddangos eich Ffermfeisiad a derbyn tlws Ffermfeisio unigryw.
- £600 o offer roboteg ar gyfer eich ysgol.
Bydd yna un cais buddugol ym mhob un o'r categorïau canlynol:
- CA1 (Blynyddoedd 1 & 2)
- CA2 isaf (Blynyddoedd 3 & 4)
- CA2 uchaf (Blynyddoedd 5 & 6)
Bydd pob ymgeisydd yn derbyn cydnabyddiaeth fel 'ffermfeisydd' ardystiedig ac yn derbyn pecyn yn cynnwys tystysgrif a gwobr fechan. Bydd y gystadleuaeth yn cau ar y 23 Rhagfyr 2019
Pa fath o gyflwyniad sydd yn addas?
Mae natur eich cyflwyniad i fyny i chi yn llwyr, ac mae'n bosib y bydd hyn yn dibynnu ar y categori oedran. Gallai rhai o'r syniadau a gyflwynir gynnwys:
- Fideo yn dangos esboniad o'r dyluniad, unrhyw ymchwil a wnaed a pha broblemau penodol y mae'r dyluniad yn datrys
- Lluniau – dyluniadau llaw neu digidol
- Hysbyseb neu gyflwyniad ar ddyluniad terfynol
- Cyflwyniad PwerBwynt neu Prezi
- Ffotograffau o fodelau/prototeipiau wedi eu creu allan o ddeunyddiau wedi eu hailgylchu, teganau adeiladu neu gitiau roboteg
Nid oes terfyn ar yr hyn y gallech ei greu, ac rydym yn annog creadigrwydd! Gallwn dderbyn y rhan fwyaf o ddogfennau, fideos a mathau o ffeiliau.
