Her wedi'i harchifo - 2019
Yn ôl i'r archifSêr bwyd y stryd
Mae bwyd stryd yn ffordd gyffrous i brofi bwyd o ddiwylliannau o bob cwr o'r byd, gyda sgeintiad o greadigrwydd mae'n bosib dylunio prydiau bwyd sydd yn ehangu gorwelion eich tafod! Mae hwn yn gyfle i archwilio ryseitiau o bellafoedd byd, ond sut allwch chi sicrhau nad yw eich cynhwysion wedi teithio mor bell?
Yr Her:
Dyluniwch pryd o fwyd stryd sydd yn dathlu o leiaf un eitem o gynnyrch Prydeinig yn brif gynhwysyn ac esboniwch ei fuddion maethol a'r manteision i'r amgylchedd.
Ynghyd â'ch dyluniad, anfonwch hysbyseb ar gyfer eich cynnyrch sydd yn esbonio'i fanteision. Gallai hyn fod yn boster, yn fideo, yn lythyr o berswâd, yn gyflwyniad, yn araith – beth bynnag y dymunwch!
Byddwn yn ystyried pedwar maen prawf wrth farnu: pa mor dda yw eich datrysiad o'r broblem, creadigrwydd & arloesedd, effaith amgylcheddol eich rysáit/pryd a manteision y rysáit/pryd ar gyfer ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd.


Y Wobr
- Ymweliad â fferm ar gyfer hyd at 35 plentyn o'ch ysgol, wedi ei noddi yn llawn.
- Teithio a threuliau ar gyfer hyd at pum plentyn a dau oedolyn i fynychu'r dathliad mawreddog yn Nhŷ'r Cyffredin er mwyn i chi arddangos eich Ffermfeisiad a derbyn tlws Ffermfeisio unigryw.
- Ymweliad o gogydd proffesiynol er mwyn dysgu i'ch dosbarth cyfan sut i baratoi, coginio a phlatio eich pryd buddugol.
- CA1 (Blynyddoedd 1 & 2)
- CA2 isaf (Blynyddoedd 3 & 4)
- CA2 uchaf (Blynyddoedd 5 & 6)
Bydd pob ymgeisydd yn derbyn cydnabyddiaeth fel 'ffermfeisydd' ardystiedig ac yn derbyn pecyn yn cynnwys tystysgrif a gwobr fechan. Bydd y gystadleuaeth yn cau ar y 23 Rhagfyr 2019
Pa fath o gyflwyniad sydd yn addas?
Mae natur eich cyflwyniad i fyny i chi yn llwyr, ac mae'n bosib y bydd hyn yn dibynnu ar y categori oedran. Gallai rhai o'r syniadau a gyflwynir gynnwys:
- Fideo yn dangos esboniad o'r rysáit/pryd, unrhyw ymchwil a wnaed a pha broblemau penodol y mae'r rysáit/pryd yn datrys
- Lluniau – dyluniadau llaw neu digidol
- Hysbyseb neu gyflwyniad ar ddyluniad terfynol
- Cyflwyniad PwerBwynt neu Prezi
Nid oes terfyn ar yr hyn y gallech ei greu, ac rydym yn annog creadigrwydd! Gallwn dderbyn y rhan fwyaf o ddogfennau, fideos a mathau o ffeiliau.
