Her wedi'i harchifo - 2019

Yn ôl i'r archif

Gwlân y ffabrig fantastig

Mae gwlân yn ffabrig gwych. Mae ganddo lawer o rinweddau anhygoel sydd yn ei wneud yn ddefnyddiol ar gyfer creu ystod eang o gynhyrchion. Ond, mae ffabrigau synthetig yn aml yn cael eu defnyddio gan y diwydiant ffasiwn. Gall ffabrigau synthetig niweidio'r amgylchedd gan nad ydynt bob amser yn bydradwy a'u bod yn medru gollwng mân ffibrau i afonydd a'r môr.

Yr Her:

Dyluniwch dilledyn unigryw sydd yn defnyddio gwlân o Brydain yn ddeunydd canolog ac esboniwch ei fanteision ar gyfer y defnyddiwr a'r amgylchedd.

Ynghyd â'ch dyluniad, anfonwch hysbyseb ar gyfer eich cynnyrch sydd yn esbonio'i fanteision. Gallai hyn fod yn boster, yn fideo, yn lythyr o berswâd, yn gyflwyniad, yn araith – beth bynnag y dymunwch! Mae hefyd angen i chi ddangos dealltwriaeth o'r mathau gwahanol o wlân Prydeinig a phaham fod y brîd o ddefaid hynny yn gywir ar gyfer eich cynnyrch.

Byddwn yn ystyried pedwar maen prawf wrth farnu: pa mor dda yw eich datrysiad o'r broblem, creadigrwydd & arloesedd, effaith amgylcheddol eich dyluniad a manteision y dyluniad ar gyfer ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd.

Y Wobr

  • Ymweliad â fferm ar gyfer hyd at 35 plentyn o'ch ysgol, wedi ei noddi yn llawn.
  • Teithio a threuliau ar gyfer hyd at pum plentyn a dau oedolyn i fynychu'r dathliad mawreddog yn Nhŷ'r Cyffredin er mwyn i chi arddangos eich Ffermfeisiad a derbyn tlws Ffermfeisio unigryw.
  • Bydd prototeip o'ch dyluniad yn cael ei greu gan ddyluniwr dillad proffesiynol.
Bydd yna un cais buddugol ym mhob un o'r categorïau canlynol:
  • CA1 (Blynyddoedd 1 & 2)
  • CA2 isaf (Blynyddoedd 3 & 4)
  • CA2 uchaf (Blynyddoedd 5 & 6)

Bydd pob ymgeisydd yn derbyn cydnabyddiaeth fel 'ffermfeisydd' ardystiedig ac yn derbyn pecyn yn cynnwys tystysgrif a gwobr fechan. Bydd y gystadleuaeth yn cau ar y 23 Rhagfyr 2019

Pa fath o gyflwyniad sydd yn addas?

Mae natur eich cyflwyniad i fyny i chi yn llwyr, ac mae'n bosib y bydd hyn yn dibynnu ar y categori oedran. Gallai rhai o'r syniadau a gyflwynir gynnwys:

  • Fideo yn dangos esboniad o'r dyluniad, unrhyw ymchwil a wnaed a pha broblemau penodol y mae'r dyluniad yn datrys.
  • Lluniau – dyluniadau llaw neu digidol
  • Hysbyseb neu gyflwyniad ar ddyluniad terfynol
  • Cyflwyniad PwerBwynt neu Prezi.
  • Ffotograffau o fodelau/prototeipiau wedi eu creu allan o ddeunyddiau wedi eu hailgylchu, teganau adeiladu neu gitiau roboteg.

Nid oes terfyn ar yr hyn y gallech ei greu, ac rydym yn annog creadigrwydd! Gallwn dderbyn y rhan fwyaf o ddogfennau, fideos a mathau o ffeiliau.

English