Her wedi'i harchifo - 2018

Yn ôl i'r archif

Tractor y dyfodol

Yr Her:

Dyluniwch dractor ar gyfer y dyfodol

Dyma rhai o’r problemau y mae ffermwyr yn wynebu:

  • Does dim digon o bobl ar gael i bigo rhai o'r cnydau â llaw
  • Mae peiriannau trwm yn gwasgu'r ddaear ac yn atal y planhigion rhag dyfu
  • Mae gyrwyr tractorau yn blino wrth weithio bob awr o'r dydd yn ystod y cynhaeaf
  • Mae ffermwyr eisiau amddiffyn yr amgylchedd

Byddwn yn beirniadu'r ceisiadau ar bedwar maen prawf: Pa mor dda yr ydych chi wedi datrys y broblem, creadigrwydd ac arloesedd, effaith amgylcheddol eich dyluniad a manteision y dyluniad ar gyfer ffermwyr a thyfwyr bwyd.

Y Wobr

  • Ymweliad â fferm ar gyfer hyd at 35 plentyn o'ch ysgol, wedi ei noddi yn llawn.
  • Hyd at £600 i'w wario ar git roboteg neu adeiladu er mwyn adeiladu prototeip o'ch dyluniad.
  • Teithio a threuliau ar gyfer hyd at pum plentyn a dau oedolyn i fynychu'r diweddglo mawreddog yn Nhŷ'r Cyffredin yn ystod Wythnos Wyddoniaeth a Pheirianneg Prydain.
  • Eich dewis o git STEM in Actioner mwyn i chi gael hwyl yn cyflawni mwy o heriau GTPM (STEM) yn eich ysgol. (Gyda nawdd hael gan Learning Resources)

Bydd yna un cais buddugol ym mhob un o'r categorïau canlynol:

  • Cyfnod Sylfaen (Blynyddoedd 1 & 2)
  • CA2 isaf (Blynyddoedd 3 & 4)
  • CA2 uchaf (Blynyddoedd 5 & 6)

Bydd pob ymgeisydd yn derbyn cydnabyddiaeth fel 'ffermfeisydd' ardystiedig ac yn derbyn pecyn yn cynnwys tystysgrif a gwobr fechan. Mae'r ceisiadau'n cau ar 21 Rhagfyr, 2018.

Bydd pencampwr y gystadleuaeth, a ddewisir yn y diweddglo mawreddog, yn derbyn y profiad bythgofiadwy o droi yr ysgol fuddugol yn fferm am ddiwrnod cyfan.

Pa fath o gyflwyniad sydd yn addas?

Mae natur eich cyflwyniad i fyny i chi yn llwyr, ac mae'n bosib y bydd hyn yn dibynnu ar y categori oedran. Gallai rhai o'r syniadau a gyflwynir gynnwys:

  • Fideo yn dangos esboniad o'r dyluniad, unrhyw ymchwil a wnaed a pha broblemau penodol y mae'r dyluniad yn eu datrys
  • Lluniau – dyluniadau llaw neu digidol
  • Hysbyseb neu gyflwyniad ar ddyluniad terfynol
  • Cyflwyniad PwerBwynt neu Prezi
  • Ffotograffau o fodelau/prototeipiau wedi eu creu allan o ddeunyddiau wedi eu hailgylchu, teganau adeiladu neu gitiau roboteg

Nid oes terfyn ar yr hyn y gallech ei greu, ac rydym yn cefnogi creadigrwydd! Gallwn dderbyn y rhan fwyaf o ddogfennau, fideos a mathau o ffeiliau.

All of our Farmvention challenges are accredited for the CREST Discovery Award. If you’re an Upper CA2 teacher you might want to use the CREST Discovery Passport to help students plan their submission.

Bydd y gystadleuaeth yn agor ar y 1af o Fedi 2018.

Adnoddau

Dyma rai prosiectau o'n ffrindiau yn ASE er mwyn i chi gael man cychwyn:

English