Mae planhigion a phridd iach yn hanfodol yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Fel dwy o'r storfeydd mwyaf o garbon ar y blaned, mae angen i ni sicrhau eu bod yn derbyn gofal da ac yn iach.
Adnoddau dysgu
Download allBlynyddoedd 1 & 2
Faint o ddŵr sydd ei angen ar blanhigyn?
Blynyddoedd 3 i 6
Beth sydd ei angen ar blanhigion?
Blynyddoedd 7 i 9
Sut allwn ni droi tywod yn bridd iach?
Sut fydd eich cais yn edrych?
Chi sydd i benderfynu sut olwg sydd ar eich cyflwyniad. Mae syniadau yr ydym yn disgwyl eu gweld yn cynnwys:
- Fideo yn dangos esboniad o'r dyluniad, unrhyw ymchwil sydd wedi'i wneud ac unrhyw broblemau penodol y mae'r dyluniad yn eu datrys
- Darluniau - naill ai wedi'u tynnu â llaw neu'n ddigidol
- Hysbyseb neu ‘pitch’ o'r dyluniad terfynol
- Cyflwyniad PowerPoint neu Prezi
- Ffotograffau o fodelau/prototeipiau wedi'u gwneud gan ddefnyddio deunyddiau wedi'u hailgylchu, teganau adeiladu neu gitiau roboteg
Rhowch rwydd hynt i’ch dychymyg gan ein bod yn annog creadigrwydd! Gallwn dderbyn y mwyafrif o fathau o ddogfennau, delwedd a fideo.